kowydd y kysgod
1 doe roeddwn dan irddail
2 yn aros gwen elen ail
3 gochel glaw dan gochyl glas
4 dan fendwen fal dyn ynfydwas
5 vcho i gwelwn ryw evlvn
6 yn sefyll yn hyll i hvn
7 ysgodigaw draw ar draws
8 a hono fal gwr hynaws
9 achroessi rrag ychryssaint
10 y korff may a swynav saint
11 dowaid affaid ath dewi
12 yma wyt wr pwy wyt ti
13 myfv taw ath ymofvn
14 dygysgod hynod dy hvn
15 taw er mair na lesdair les
16 ym fynegi fyneges
17 dyfod i ddwy defod dda
18 ith ymyl noeth yw yma
19 i ddangos em addwyngwyn
20 rryw beth wyd mae rraib ithwyn
21 [579] na ge wr hael anwr hyll
22 ni dwy felly dwf ellyll
23 godrwm gawr orvn gydrith
24 tybygach wyt tebig chwith
25 i drichiolaeth hiraethlawn
26 nag i ddyn mewn agwedd iawn
27 hevssor mewn sekker yn kekrv
28 llorp gwrach ar dvdfach dv
29 bigail y llyllon bowgoel
30 bwbach ar lvn manach moel
31 grewr yn chware griors
32 ne ryr llawn yn pori kawn kors
33 garan yn bwrw i gwryd
34 garer rwyll ar gwr y ryd
35 wyneb palmerth o hvrthgen
36 brawd tv o wr mewn brat hen
37 trvm korff wedi droi mewn karth
38 ple bvosd hen bawl bvarth
39 llawer dydd ytti pes lliwiwn
40 gida thi gwae di od gwn
41 pa anaf arnaf oernen
42 a wddosd ti wddw ysden
43 nag awyr pob synhwyrawl
44 or byd oll yd baw diawl
45 ni ddychenais gais gymwd
46 ni leddais gwn leddf ysgwd
47 ni theflais fain a thaflfain
48 ni fwbechais rai bychain
49 ni da erbyn dyn ydawn
50 ni rwysdrais gwraig gwr esdrawn
51 myn fynghred pei mynagwn
52 rrai ni wyr yrryn awn
53 [580] trennydd kyn torri annog
54 yngrhed i byddyt yngrhog
55 mogel taw ymagyl tosd
56 rrag adde rrai ag a wddosd
57 mwy na ffe bai tra fai fav
58 gowni ar gil y genav
Dauidd ap gwilim ai kant